Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog |
Lleoliad: |
Ystafell Bwyllgora 4 - Tŷ Hywel |
|
|
||
|
|
||||
Dyddiad: |
Dydd Iau, 21 Mawrth 2013 |
|
|||
|
|
||||
Amser: |
09:30 - 10:00 |
|
|||
|
|
||||
Gellir gwylio’r cyfarfod ar Senedd TV yn: |
|||||
|
|||||
|
|||||
Cofnodion Cryno: Preifat |
|||||
|
|
|
|||
Aelodau’r Cynulliad: |
|
David Melding (Cadeirydd) Paul Davies Eluned Parrott Ken Skates |
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Tystion: |
|
|
|||
|
|
||||
|
|
|
|||
Staff y Pwyllgor: |
|
Siân Phipps (Clerc) Richard Johnson (Dirprwy Glerc) Gwyn Griffiths (Cynghorydd Cyfreithiol) Graham Winter (Ymchwilydd) |
|||
|
|
||||
1 Cyflwyniad, ymddiheuriadau a dirprwyon
Cafwyd ymddiheuriadau gan Elin Jones.
Roedd Ken Skates yn dirprwyo ar ran Mark Drakeford.
2 Trafod llythyr drafft - Cyfarfod Pwyllgor Craffu ar Waith y Prif Weinidog ar 27 Chwefror 2013
Cytunodd yr Aelodau ar eiriad y llythyr, yn amodol ar newid yn y paragraff olaf ond un.
3 Trafod papur drafft - Gweithgaredd y Pwyllgor ar gyfer y dyfodol - opsiynau ar gyfer tymor yr haf 2013
Cytunodd yr Aelod i gynnal y cyfarfod nesaf yng Ngogledd Cymru. Cynhelir y cyfarfod yn ystod tymor yr haf.
Cytunwyd y byddai'r tîm clercio yn cysylltu â'r Prif Weinidog i bennu dyddiad a lleoliad addas ar gyfer y cyfarfod.
Cytunodd yr Aelodau mai darpariaeth prosiectau seilwaith mawr, gan gynnwys ynni, ddylai fod pwnc y cyfarfod nesaf. Cytunwyd y dylid canolbwyntio'n arbennig ar enghreifftiau yng Ngogledd Cymru, gan gynnwys trydaneiddio'r rheilffyrdd, gwelliannau i'r A55, ynni niwclear ac adnewyddadwy, gwella'r grid a dinas-ranbarthau.
Awgrymodd yr Aelodau y gallai'r ymweliad â Gogledd Cymru hefyd gynnwys digwyddiad y noson cyn y cyfarfod.
Awgrymodd yr Aelodau hefyd y dylid cynnal digwyddiad ymgysylltu fel sesiwn meic agored. Efallai y gellid gwahodd y Prif Weinidog i gymryd rhan yn y gweithgaredd hwn.
Dywedodd yr Aelodau eu bod yn hoffi arddull y papur briffio a ddarparwyd yn ystod y cyfarfod blaenorol, a byddent yn hoffi gweld rhywbeth tebyg ar gyfer cyfarfodydd yn y dyfodol.